Cefndir

Cafodd Aberglasne dipyn o sylw yn sgil cyfres deledu’r BBC, “A Garden Lost in Time”, ar ôl gwneud gwaith adfer yno. Heb os nac oni bai, Aberglasne yw un o erddi gorau Cymru heddiw. Yn ganolog iddi, y mae Gardd y Cloestr o oes Elisabeth, yr unig un o’i math sydd wedi goroesi yn y Deyrnas Unedig. Heblaw am hyn, gall ymwelwyr grwydro drwy 10 erw o dir ac 20 o erddi gwahanol – o erddi ffurfiol i goetir i’r egostig a’r modern. Mae cyfle hefyd i fwynhau llawr gwaelod plasty rhestredig gradd II* Aberglasne. Mae hwnnw wedi’i adfer yn llwyr ac yn rhoi golygfa ysblennydd wrth gynnal arddangosfeydd a digwyddiadau.

Y Plasty

Mae’r plasty hanesyddol yn Aberglasne, sy’n adeilad rhestredig gradd II*, wedi bod yn gartref i sawl cymeriad lliwgar dros y 500 mlynedd diwethaf. Yn eu plith mae bardd ac artistiaid, Esgob, Uchel-Siryf, penseiri a chyfreithwyr, yfwyr a llwyrymwrthodwyr brwd. Serch hynny, cyn y gwaith adfer diweddar, bu’n anodd dychmygu mawredd yr oes a fu, a hynny ar ôl degawdau o ddirywiad, a’r plasty’n segur ac wedi’i esgeuluso a’i fandaleiddio.

Heddiw, ceir to gwydr dros ganol y plasty, sy’n gartref i’r ‘Ninfarium’ – gardd isdrofannol dan do Aberglasne, sydd wedi ennill gwobrau lu. Yma bellach mae planhigion yn ffynnu ymysg yr adfeilion.

Hanes

Gerddi

Yn Aberglasne, ceir 10 acer o erddi tra gwahanol eu steil, o ardd hanesyddol y cloestr i’r ardd lysiau gynhyrchiol a’r Ninfarium unigryw. Mae pob math o bethau i’w gweld, a bydd y gerddi’n newid o dymor i dymor, yn llawn blodau a choed di-ben-draw.

Mae calendr blodeuo'r ardd yn dangos pryd y bydd planhigion a gerddi penodol ar eu llawn dwf.

Gerddi

Ystafelloedd Te

Ni fyddai’r un ymweliad ag Aberglasne yn gyflawn heb alw heibio i’r ystafelloedd te, sydd mewn lle godidog uwchben Gardd y Pwll. Y tu mewn, mae’r ystafelloedd te yn gysurus tu hwnt, tra bydd y teras wastad yn dal yr haul. Dyma le delfrydol i fwynhau ciniawau cartref, ffres, neu de prynhawn traddodiadol, sy’n cynnwys cacennau a theisennau cartref. Fe welwch hefyd ddetholiad o winoedd, cwrw a seidr ar y fwydlen ynghyd â hufen iâ gwych.

Ystafelloedd Te

Y Siop

Mae ein siop yn gwerthu amrywiaeth eang o gynhyrchion, o offer garddio i nwyddau i’r tŷ, o gardiau cyfarch i bethau ymolchi. Rydym yn stocio llawer o gynnyrch lleol fel y jamiau, perserves a siytni arobryn gan Little Grandma’s Kitchens, ynghyd â siocled Wickedly Welsh, mêl Mel Gwenyn Gruffydd, Morgan’s Brew Tea a choffi Teifi yn ogystal â sebonau olew hanfodol hyfryd o’r Welsh Valley Soapery.

At hynny, mae yma ddetholiad da o lyfrau Cymraeg i blant yn ogystal â llyfrau teithio lleol a llyfrau am hanes Cymru i ymgolli ynddyn nhw.

Mae gennyn ni hefyd le gwerthu planhigion – a’r rheini wedi’u dewis gan ein Prif Arddwr – i sicrhau bod gennyn ni wastad bethau tymhorol i’ch helpu chi i ddatblygu’ch gardd.

Fe gewch chi ddod i’r siop a’r lle gwerthu planhigion AM DDIM.

Talebau Rhodd

Hanes Cynnar

Mae cywydd o’r canol oesoedd, sydd i’w weld ar y safle hwn, yn sôn am ‘naw o arddau yn wyrddion’, ond does dim cofnodion da o hanes Aberglasne tan ddyddiau William ap Thomas, neu Syr William Thomas, a gafodd ei wneud yn farchog gan Harri’r VIII. Daeth yn Uchel-Siryf Sir Gâr yn 1541-2, gan ychwanegu capel Aberglasne at Eglwys Llangathen. Prin iawn yw’r wybodaeth am sut yr edrychai’r tŷ yn yr oes honno, ond roedd yn ddigon mawreddog i ddal llygad esgob grymus hanner canrif wedyn.

1541 – Syr William ap Thomas yn dod yn Uchel-Siryf Sir Gâr.

1594 – Anthony Rudd yn cael ei gysegru yn Esgob Tŷ Ddewi.

Lewis Glyn Cothi, Cywydd i Rhydderch ap Rhys

Iddaw fo mae neuadd falch
ac yn wengaer gan wyngalch,
ac o gylch ogylch i hon
naw o arddau yn wyrddion.
Perllanwydd a gwinwydd gŵyr,
derw ieuainc hyd yr awyr.
Lewis Glyn Cothi

Y 1600au

Yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elisabeth I, prynwyd yr ystad gan Esgob uchelgeisiol. Cafodd Anthony Rudd ei gysegru yn Esgob Tŷ Ddewi yn 1594. Iddo ef, ynghyd â’i fab, Syr Rice Rudd, y mae’r clod am ailadeiladu Aberglasne a chreu Gardd y Cloestr, sydd bellach yn enwog. Yn 1670, cafodd y tŷ ei asesu am y ‘Dreth Aelwyd’. Roedd 30 o aelwydydd i gyd, a olygai mai dyma oedd un o dai mwyaf y wlad. Ond roedd Syr Rice wedi gorwario ar y gwaith adnewyddu. Gyda’r dyledion yn cronni, gorfodwyd ei ŵyr, Syr Rice Rudd arall, i forgeisio’r ystad.

1710 – Robert Dyer yn prynu’r ystad.

1798 – Hysbysebu i werthu Aberglasne a’i 584 erw.

Lewis Glyn Cothi, Cywydd i Rhydderch ap Rhys

Iddaw fo mae neuadd falch
ac yn wengaer gan wyngalch,
ac o gylch ogylch i hon
naw o arddau yn wyrddion.
Perllanwydd a gwinwydd gŵyr,
derw ieuainc hyd yr awyr.

Lewis Glyn Cothi

Yr Esgob Rudd a'i Wraig.

Ewyllys Anne Rudd

Y 1700au

Daw Aberglasne yn gartref i deulu Dyer ar ôl i Robert Dyer, y cyfreithiwr llwyddiannus o Sir Gâr, brynu’r ystad. Mae’n gyfrifol am ailwampio’r tŷ yn sylweddol yn ystod cyfnod y Frenhines Anne, yn null ffasiynol yr oes. Ni chyffyrddwyd â’r rhan fwyaf o’r gerddi, ac eithrio am gael gwared ar fur y cwrt blaen. Yn wreiddiol, roedd hwnnw’n sownd i’r porthdy, sydd bellach yn sefyll ar wahân fel un o nodweddion yr ardd. Fel clawdd y dechreuodd Twnnel yr Yw ei oes ryfeddol. Roedd John Dyer, ail fab Robert, yn fardd enwog a ysgrifennai am y tirlun. Mae ei gerddi ‘Grongar Hill’ a ‘The Country Walk’ yn disgrifio golygfeydd prydferth dyffryn Tywi. Yn eu tro, dechreuodd y Dyers gronni dyledion hefyd. Rhoddwyd yr ystad ar werth yn 1798.

‘The Country Walk’

See, below, the pleasant dome,
The poet’s pride, the poet’s home….
See her woods, where Echo talks,
Her gardens trim, her terrace walks,
Her wildernesses, fragrant brakes,
Her gloomy bowers and shining lakes,
Keep, ye gods, this humble seat,
For ever pleasant, private, neat.

John Dyer

John Dyer

Hysbysiad Gwerthu

Y 1800au

Yn ystod ysblander y Rhaglywiaeth ac oes Fictoria, a chyfnod cymeriadau Dickensaidd, roedd Aberglasne yn gartref i’r Phillips a’r Walters Philipps. Dyma’r ganrif pan roddwyd i’r plasty ei wedd bresennol: ychwanegwyd y portico a’r ffenestri bae, ac addaswyd llinell y to. Prynodd Thomas Phillips Aberglasne ar ôl ymddeol o’r Honourable East India Company, lle’r oedd wedi dringo i swydd y Prif Lawfeddyg. Pan fu farw’n ddi-blant, gadawodd Aberglasne i John Walters, mab ei chwaer. Rhoddodd hwnnw Phillipps yn gynffon at ei enw, ond wedi’i sillafu’n wahanol. Wyres John Walters Philipps, sef Marianne Emily Jane Pryse, oedd yr etifedd newydd.

John Walters Philipps

Y 1900au

Priododd Marianne â milwr ifanc, Charles Mayhew. Gosodwyd Aberglasne ar rent yn ystod y rhan fwyaf o’u hoes briodasol. Ond wedi iddo ymddeol yn 1902, dychwelodd y ddau i Sir Gâr. Mae’r Cyrnol Mayhew yn enwog yn bennaf fel llwyrymwrthodwr brwd, a byddai’r Mayhews yn cynnal ralïau dirwest. Hwy hefyd a gododd y Neuadd Ddirwest yn Llangathen. Pan fu farw’r Cyrnol Mayhew, gadawodd ei weddw am Lundain, lle bu fyw am 30 mlynedd arall. Pan fu hithau farw, aeth yr eiddo i ŵr o’r enw Eric Evans, a hynny drwy ail briodas ei thad â theulu Pryse-Rice. Ond bu farw Eric Evans yn 30 oed, a phenderfynodd ymddiriedolwyr ei fab nad oedd yr eiddo’n hyfyw yn economaidd. Efallai, hyd yn oed, eu bod nhw’n credu bod y lle’n anlwcus. Rhannwyd yr ystad, a phrynodd David Charles, cyfreithiwr o Gaerfyrddin, y tŷ a’r fferm. Bu gwerthiant arall yn 1977 gan rannu’r ystad ymhellach. Rhyw fymryn o fawredd, ond degawdau o ddirywiad – dyma ganrif pan gafodd hen ystadau ar hyd a lled y wlad eu rhannu. A dyma ganrif a arweiniodd at dranc sawl plasty gwledig.

1902 – Y Cyrnol a Mrs Mayhew yn dod i fyw i Aberglasne.

1908 – Mrs Mayhew yn gadael Aberglasne ar ôl marwolaeth ei gŵr flwyddyn ynghynt.

1939 – Marwolaeth Mrs Mayhew, ac Aberglasne yn dod i feddiant Eric Evans.

1939 – 1945 – Y Fyddin yn meddiannu Aberglasne.

1950 – 1954 – Ar ôl marwolaeth Eric Evans a rhannu’r ystad, David Charles yn prynu’r tŷ.

1977 – Gwerthu Aberglasne eto.

Pedair o foneddigesau Sir Gâr, a Mrs Mayhew ar y chwith

Pedair o foneddigesau Sir Gâr, a Mrs Mayhew ar y chwith


Pasiant 1951

Yr adferiad

A hwnnw’n segur, wedi’i esgeuluso a’i fandaleiddio, roedd Aberglasne ar fin dadfeilio’n llwyr pan gafodd ei achub rhag mynd i ebargofiant yn 1995. Prynwyd y tŷ a’r gerddi gan Ymddiriedolaeth Adfer Aberglasne, ar ôl cael rhodd ariannol gan fuddiolwr o America – Frank Cabot.

Ffrwyth meddwl William Wilkins CBE oedd y prosiect adfer. Ef hefyd a sefydlodd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru ac ef oedd hyrwyddwr cyntaf Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Aeth ati i oruchwylio cynllun mawr ar gyfer adfer ac ail-greu’r gerddi a’r plasty, ac roedd yn hollbwysig yn y gwaith codi arian. Fe’i penodwyd yn gadeirydd cyntaf yr Ymddiriedolaeth.

Diolch i haelioni rhoddwyr unigol, arian gan ymddiriedolaethau, rhoddion elusennol a grantiau gan nifer o gyrff statudol, fe wnaed peth wmbreth o waith mewn cyfnod tu hwnt o fyr. Agorodd Aberglasne o’r diwedd i’r cyhoedd ar 4 Gorffennaf 1999. Ond mae’r gwaith adfer wedi parhau i fynd rhagddo ers hynny, gyda llawr gwaelod y plasty’n cael ei gwblhau yng ngwanwyn 2013 a’r prosiect i adfer yr Hen Dylciau Moch yn dod i ben yn 2016.

1995 – Ymddiriedolaeth Adfer Aberglasne yn prynu’r tŷ a’r gerddi.

1999 – Gerddi Aberglasne yn agor i’r cyhoedd.

2013 – Y gwaith i adfer llawr gwaelod y plasty yn cael ei gwblhau.

2016 – Y prosiect i adfer yr hen fferm foch yn cael ei gwblhau, gan weddnewid yr adfeilion yn lle i luosogi planhigion ac yn ganolfan hyfforddiant ac addysg.