Hanes

Aberglasne, Pobl a Lle 

Hanes Cynnar

Cyfeirir at ‘nine green gardens’ ar y safle hwn mewn cerdd sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol, ond ceir gwell cofnod o hanes Aberglasne yn ystod cyfnod William ap Thomas neu Syr William Thomas, a gafodd ei urddo’n farchog gan Harri’r VIII. Daeth yn Uchel Siryf cyntaf Sir Gaerfyrddin yn 1541-2 ac ychwanegodd gapel Aberglasne at Eglwys Llangathen. Er nad ydym yn gwybod llawer am sut yr oedd y tŷ yn edrych yn ystod ei gyfnod, roedd yn ddigon crand i ddenu sylw esgob pwerus hanner can mlynedd yn ddiweddarach.

1541 - William ap Thomas yn dod yn Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin.

1594 - Anthony Rudd yn cael ei gysegru yn Esgob Tyddewi.

Beddrod Yr Esgob Rudd (Eglwys Llangathen)

Lewis Glyn Cothi, Cywydd i Rhydderch ap Rhys

Iddo ef mae neuadd falch
Ac yn wengaer gan wyngalch
Ac o gylch ogylch i hon
Naw o arddau yn wyrddion
Perllanwydd a gwinwydd gwyr
Derw ieuan hyd yr awyr.

Y 1600au

Cafodd yr ystâd ei phrynu gan Esgob uchelgeisiol yn ystod teyrnasiad Brenhines Elizabeth I. Cafodd Anthony Rudd ei gysegru’n Esgob Tyddewi yn 1594 a rhoddir y clod iddo ef, ynghyd â’i fab Syr Rice Rudd, am ailadeiladu Aberglasne a chreu’r Ardd Gloestr enwog. Ym 1670 cafodd y tŷ ei asesu am ‘Dreth Aelwyd’ a chyda 30 aelwyd roedd yn un o’r mwyaf yn y sir. Ond roedd Syr Rice wedi gorwario ar yr adnewyddiadau, felly wrth i’r dyledion gynyddu, gorfodwyd ei ŵyr, a elwid hefyd yn Rice Rudd, i forgeisio’r ystâd.

C1595-1600 Yr Esgob Rudd yn prynu Aberglasne.

1614 – Yr Esgob Rudd yn marw. Syr Rice Rudd (Barwnig 1af) yn parhau â’r gwaith adeiladu.

1664 – Syr Rice Rudd yn marw gan adael dyled sylweddol.

c1682 – Syr Rice Rudd (2il Farwnig) yn morgeisio Aberglasne.

Yr Esgob Rudd a’i wraig

Ewyllys Anne Rudd

The 1700’s

Daw Aberglasne yn gartref i’r teulu Dyer ar ôl i Robert Dyer, cyfreithiwr llwyddiannus yn Sir Gaerfyrddin brynu’r ystâd. Ef oedd yn gyfrifol am ailfodelu’r tŷ yn sylweddol yn arddull ffasiynol cyfnod y Frenhines Anne. Gadawodd y mwyafrif o’r gerddi fel yr oeddent, heblaw am symud wal y cwrt blaen a oedd wedi’i chysylltu’n wreiddiol â’r porthdy ond sydd bellach yn aros ar ei phen ei hun yn nodwedd o’r ardd. Roedd y Twnnel Ywen hynod hefyd wedi dechrau fel clawdd. Ail fab Robert oedd John Dyer, bardd tirwedd nodedig ac awdur y cerddi ‘Grongar Hill’ a ‘The Country Walk’ sy’n disgrifio golygfeydd hardd dyffryn Tywi. Ymhen hir a hwyr, aeth y teulu Dyer hefyd i ddyled ac ym 1798 rhoddwyd yr ystâd ar werth.

1710 – Yr ystâd yn cael ei phrynu gan Robert Dyer.

798 – Aberglasne yn cael ei hysbysebu ar werth yn cynnwys 584 erw.

Hysbysiad o werthiant 1798

O ‘The Country Walk’

See, below, the pleasant dome,
The poet’s pride, the poet’s home….
See her woods, where Echo talks,
Her gardens trim, her terrace walks,
Her wildernesses, fragrant brakes,
Her gloomy bowers and shining lakes,
Keep, ye gods, this humble seat,
For ever pleasant, private, neat.

John Dyer

Y 1800au

Mae Aberglasne yn gartref i deuluoedd Phillips a Walters Philipps yn ystod dyddiau ysblander Rhaglywiaeth a Fictoraidd a chymeriadau Dickens. Hon yw’r ganrif pan ffurfiwyd golwg allanol y plasty a welir heddiw; ychwanegwyd y portico a ffenestri crom ac addaswyd llinell y to. Prynwyd Aberglasne gan Thomas Phillips ar adeg ei ymddeoliad o Gwmni Honourable East India, lle'r oedd wedi’i ddyrchafu i rôl Prif Lawfeddyg. Pan fu farw heb blant, gadawyd Aberglasne i fab ei chwaer sef John Walters, a ychwanegodd y cyfenw Philipps. Wyres John Walters Philipps Marianne Emily Jane Pryse, a ddaeth yn etifeddes.

1803 – Yr ystâd yn cael ei gwerthu i Thomas Phillips.

1824 – Marwolaeth Thomas Phillips, Aberglasne yn trosglwyddo i John Walters (Philipps).

1867 – Marwolaeth John Walters Philipps, Aberglasne yn trosglwyddo i Marianne Emily Jane Pryse.

1872 – Y tŷ yn cael ei hysbysebu i’w osod.

John Walters Philipps

Ffasâd tua 1870

Ffasâd gorllewinol 1876

‘Tenby Observer’ 1872

Aberglasne 1800

Y 1900au

Priododd Marianne filwr ifanc, Charles Mayhew a rhoddwyd Aberglasne ar osod yn ystod y rhan fwyaf o’u bywyd priodasol. Fodd bynnag, ar ei ymddeoliad yn 1902, dychwelodd y ddau i Sir Gaerfyrddin. Mae’r Cyrnol Mayhew yn cael ei gofio orau am fod yn llwyrymwrthodwr chwyrn ac roedd y teulu Mayhew yn cynnal ralïau Dirwest a nhw roddodd y Neuadd Ddirwest i Langathen. Pan fu’r Cyrnol Mayhew farw, aeth ei weddw i Lundain, lle bu’n byw am y 30 mlynedd nesaf. Pan fu farw Mrs Mayhew syrthiodd yr eiddo ar deulu Pryse-Rice ac ar Eric Evans trwy ail briodas ei thad. Ond bu farw Eric Evans yn 30 oed a phenderfynodd ymddiriedolwyr ei fab nad oedd yr eiddo’n hyfyw yn economaidd, neu efallai ei fod hyd yn oed yn anlwcus. Rhannwyd yr ystâd, a phrynwyd y tŷ a’r fferm gan David Charles, cyfreithiwr o Gaerfyrddin. Cafwyd gwerthiant arall ym 1977 a rhannwyd yr ystâd ymhellach. Eiliadau o ogoniant ond degawdau o ddirywiad – roedd hon yn ganrif a welodd ddarnio  hen ystadau a thranc nifer o blastai gwledig.

1902 – Y Cyrnol a Mrs Mayhew yn ymgartrefu yn Aberglasne.

1908 – Mrs Mayhew yn gadael Aberglasne yn sgil marwolaeth ei gŵr flwyddyn ynghynt.

1939 – Marwolaeth Mrs Mayhew, Aberglasne yn trosglwyddo i Eric Evans.

1939 – 1945 – Aberglasne yn cael ei feddiannu’n orfodol gan y Fyddin.

1950 - 1954 – Yn sgil marwolaeth Eric Evans a rhannu’r ystâd, mae’r tŷ yn cael ei brynu gan David Charles.

1977 – Aberglasne yn cael ei werthu eto.

Pedair o wragedd bonheddig Sir Caerfyrddin, Mrs Mayhew ar y chwith

Aberglasne 1939, braslun gan Idris Davies

Pasiant 1951

Y Bennod Ddiweddaraf

Yn wag ac wedi’i esgeuluso a’i fandaleiddio, roedd Aberglasne ar fin dymchwel pan gafodd ei achub o ebargofiant ym 1995. Prynwyd y tŷ a’r gerddi gan Ymddiriedolaeth Adfer Aberglasne, a rhoddwyd yr arian gan gymwynaswr Americanaidd sef Frank Cabot. Yna diolch i haelioni rhoddwyr unigol, arian gan ymddiriedolaethau, rhoddion elusennol ac arian grant gan nifer o gyrff statudol cyflawnwyd gwaith aruthrol mewn cyfnod byr iawn. O’r diwedd agorodd Aberglasne i’r cyhoedd ar 4 Gorffennaf 1999, fodd bynnag mae’r gwaith adfer wedi parhau ers y dyddiad hwn, a chwblhawyd y gwaith ar lawr gwaelod y plasty yn ystod y Gwanwyn 2013.

1995 – Ymddiriedolaeth Adfer Aberglasne yn prynu’r tŷ a’r gerddi.

1999 – Gerddi Aberglasne yn agor i’r cyhoedd.

2013 – Cwblhau’r gwaith o adfer llawr gwaelod y plasty.

Tŷ adfeiliedig

Atgyweiriadau 2013